Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 13 Rhagfyr 2017
Amser:
09.06 -
12.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4407
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Sally Taber, Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru Gerry Evans, Cyngor Gofal Cymru David Francis, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Dr Kate Chamberlain, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Kevin Thomas, Swyddfa Archwilio Cymru Martin Peters, Swyddfa Archwilio Cymru Catrin Evans, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Manon Huws (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rhianon Passmore AC, Bethan Jenkins AC, Mick Antoniw AC a Gareth Bennett AC.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Catrin Edwards, Rheolwr Polisi ac Eiriolaeth, Hospice UK
2.2 - Yn ystod y sesiwn, cytunodd Catrin Edwards i ddarparu unrhyw wybodaeth sydd ar gael ar gadw cofnodion hosbisau pan fydd claf yn cael ei drosglwyddo i ysbyty ar ddiwedd oes.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Sally Taber, Cyfarwyddwr, Gwasanaeth Dyfarnu Cwynion y Sector Gofal Iechyd Annibynnol
· Gerry Evans, Dirprwy Brif Weithredwr, Gofal Cymdeithasol Cymru
· David Francis, Prif Arolygydd Cynorthwyol, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
· Dr Kate Chamberlain, Prif Weithredwr, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
3.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Gwasanaeth Dyfarnu Cwynion y Sector Gofal Iechyd Annibynnol ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i ddarparu nodiadau ar fanylion y ddwy uned cleifion preifat yng Nghymru.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Swyddfa Archwilio Cymru
· Martin Peters, Pennaeth Cyfraith a Moeseg, Swyddfa Archwilio Cymru
5.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Llywydd mewn cysylltiad â'r Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol.
5.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Gweinidog dros Dai ac Adfywio mewn cysylltiad â'r Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol.
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2, 3 a 4.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith, a chytunodd i drafod nifer o ymholiadau mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.